I ddechrau rhoddodd yr elusen gymorth i deuluoedd tlawd yn y cymoedd glofaol yn ystod y dirwasgiad.
Heddiw, mae bron i un plentyn ym mhob tri yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae’r gyfran yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU, ac yn gyfwerth â bron i 200,000 o blant.
Gall byw mewn tlodi olygu bod heb hanfodion sylfaenol, fel dillad cynnes neu fwyd poeth, neu fyw mewn cartrefi sydd yn oer neu’n llaith. Gall cael eich magu mewn tlodi niweidio plentyndod a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Mae Achub y Plant yn credu fod gan pob plentyn yr hawl i gael plentydod nawr a dyfodol disglair. Trwy ein rhaglenni arloesol a’n gwaith ymgyrchu, rydym yn mynd i’r afael â thlodi plant fel y gall plant ifanc gael y gefnogaeth y maent ei angen i dyfu, datblygu ac i ddysgu.